|
Tre Conwy
Bydd taith gerdded 2 funud yn eich arwain i furiau y dref hyfryd, Castell Canoloesol Conwy a nepell o’r fan hyn Foryd, Harbwr a Chei Conwy. Mae digonedd o lefydd parcio i gyd o fewn munud o gerdded o Ganolfan Gwybodaeth Twristiaeth Conwy. Ni fydd angen dod a phecyn bwyd gyda chi, oherwydd mae popeth ar gael yng nghanol y dref. Y mae’r dref yn llawn o adeiladau a llefydd hanesyddol felly gallwch dreulio amser yma yn ymweld â hwy ac eto ni fyddwch mwy na 10 munud o safle’r wyl.
Lle i aros
Mae llawer o westai a llefydd aros Gwely A Brecwast ar gael yn yr ardal, am fwy o wybodaeth ffoniwch Canolfan Gwybodaeth Twristiaeth Conwy ar 01492 592248 (sydd wedi ei leoli yng Nghanolfan Ymwelwyr Castell Conwy)
|
Prif safle yr Wyl: Parc Bodlondeb
Mae safle gwersylla yr wyl ar dir gwastad tîm Clwb Criced Conwy. Mae toiled, Bar, Bwyd Poeth a chyfleusterau meddygol ar gael drwy’r amser. Gwyliadwraeth ddiogelwch 24awr. Mae toiled i’r anabl ar y safle.
Cyngerdd
Mae’r cyngherddau yn cael eu cynnal ym Mhabell Mawr yr wyl a Neuadd Dinesig Conwy. Bydd sesiynau ymylol ar gael mewn dwy babell yn agos at babell yr Wyl. Bydd perffomiadau, cyngherddau, dawnsfeydd a chyngherddau ‘Old Time’ yn cyd ddigwydd ymhob safle.
Amseroedd y Gerddoriaeth
Dydd Gwener: 8yh tan hanner nos
Dydd Sadwrn: Hanner Dydd tan Hanner Nos
Dydd Sul: Hanner Dydd tan 5yh, heb sôn am sesiynau amrywiol yn y gwersyll!
|
Gweithdai
Bydd gweithdai ar gyfer holl offerynau bluegrass , gan amlaf ar fore Sadwrn; dim ond ar gael i’r rhai gyda thicedi penwythnos.
|
Sesiynau
Bydd rhai sesiynau yn cychwyn NOS IAU oddi ar y prif faes. Ar gyfer mwy o fanylion ffoniwch tua diwedd Mehefin.
|
|